Get in touch
555-555-5555
mymail@mailservice.com

Donations

Latest information.

The Pier Trust is delighted that the truncated pier (Phase 1) is now complete. We have recently been awarded an Architectural Heritage Fund grant which will enable The Trust to complete a feasibility report to further investigate the future development and viability of the next two phases.


Phase 2 is the Pavillion section, Phase 3 the long section that reaches out further into the sea.


Colwyn Victoria Pier Trust Ltd is a Not For Profit organisation established with the purpose of restoring the pier and providing a vibrant and sustainable attraction on the seafront. It will help to boost the Colwyn Bay economy, provide jobs for local people while also providing the community with entertainment, education and enjoyment for visitors and locals alike. 

 

Fundraising.

So how do we get the funds we use? We are undertaking a major programme of fund raising, including grants assistance and support from Trusts and Foundations to support the development of different aspects of the pier. However, we are also going to be appealing for SUPPORT from lovely people like you; loyal seaside supporters, pier lovers, and community crusaders who recognise the fun and enjoyment we all get from a memorable visit to the coast.

 

Would you please help our efforts by DONATING £5, £10 or £20?


This will make such a difference towards restoring the pier to its former glory and bringing it back to its rightful place on the sunny sands of Colwyn Bay. With a donation you will help us to pay for structural design and engineering, architectural designs, environmental impact assessments and many other necessary costs.


If you are a business looking to SUPPORT this worthwhile local project please get in touch with us on office@pierbaecolwyn.org. There are many ways that the pier can provide inspiration, space, or the perfect platform for many important local organisations. We really want the opportunity to work with like-minded people and groups who can see the future benefits of the pier, and the positive impact it will have on the community. 


If you wish to contact us in Welsh please email your enquiry to cymraeg@pierbaecolwyn.org 


Simply click on the DONATE button to the right.

 

You can also make a DONATION by popping an envelope into our Fundraising shop and Project Office on 18 Station Road, Colwyn Bay with cash or a cheque made payable to Colwyn Victoria Pier Trust Ltd.

 

VOLUNTEERING

We are always looking for people to help in the shop or at events and fundraisers we organise, or you could strengthen our team by joining our CVP Trust as an active supporter. If you would like to get involved, please click here to complete a form and we will contact you by return. Please contact us on shop@pierbaecolwyn.org 


Rhoddion

Mae Ymddiriedolaeth y Pier wrth ei bodd bod cam cyntaf y Pier bron â'i gwblhau. Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant cronfa Treftadaeth Bensaernïol i ni, grant a fydd yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i gwblhau adroddiad dichonoldeb i ymchwilio ymhellach i ddatblygiad a hyfywedd y ddau gam nesaf yn y dyfodol. Cam 2 yw’r ardal bydd yn cynnwys y Pafiliwn; Cam 3 fydd yr adran hir yn estyn allan ymhellach i'r môr.


Mae Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Colwyn Cyf yn sefydliad dielw a sefydlwyd gyda'r diben o adfer y pier a darparu atyniad bywiog a chynaliadwy ar lan y môr. Bydd yn helpu i hybu economi Bae Colwyn, yn darparu swyddi i bobl leol tra hefyd yn rhoi adloniant, addysg a mwynhad i'r gymuned, i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.


Felly sut mae cael yr arian a ddefnyddiwn? Rydym yn ymgymryd â rhaglen fawr o godi arian, gan gynnwys cymorth grantiau a chymorth gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwahanol agweddau ar y pier. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn apelio am GYMORTH gan bobl ffeind fel chi; cefnogwyr glan môr ffyddlon, cefnogwyr y Pier, a phencampwyr cymunedol sy'n cydnabod yr hwyl a'r mwynhad sydd i’w gael o ymweliad cofiadwy â'r arfordir.

 

A fyddech cystal â helpu ein hymdrechion drwy gyfrannu £5, £10 neu £20? Bydd hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth tuag at adfer y pier i'w hen ogoniant a dod ag ef yn ôl i'w le haeddiannol ar dywod heulog Bae Colwyn. Gyda'r rhodd hon byddwch yn ein helpu i dalu am ddylunio strwythurol a pheirianneg, dyluniadau pensaernïol, asesiadau effaith amgylcheddol a llawer o gostau angenrheidiol eraill.

Os ydych yn fusnes sy'n awyddus i GEFNOGI'r prosiect lleol gwerth chweil hwn, cysylltwch â ni. Mae sawl ffordd y gall y pier ddarparu ysbrydoliaeth, gofod cymunedol, neu lwyfan perffaith i lawer o sefydliadau lleol gwerth chweil. Rydym wir eisiau'r cyfle i weithio gyda phobl a grwpiau o'r un anian sy'n gallu gweld buddiannau’r pier, a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar y gymuned. 

 

Cliciwch ar y botwm Cyfrannu (Donate) isod.

Gallwch hefyd wneud RHODD drwy daro amlen mewn i'n Siop a Swyddfa Prosiect newydd yn 18 Heol yr Orsaf, Bae Colwyn gydag arian parod neu siec yn daladwy i Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Bae Colwyn

 

GWIRFODDOLI - Rydym bob amser yn chwilio am bobl i helpu mewn digwyddiadau a gweithgareddau codi arian rydym yn eu trefnu; neu gallech gryfhau ein tîm drwy ymuno â'n grŵp Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Bae Colwyn fel cefnogwr brwd. Os hoffech gymryd rhan, cliciwch yma i lenwi ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi maes o law. 


Share by: